
Aberhonddu 20:20
Gweledigaeth Newydd

Beth yw Aberhonddu 20:20?
Gweledigaeth a chynllun gweithredu newydd yw Aberhonddu 20:20 ar gyfer dyfodol Aberhonddu. Mae’n cael ei ddatblygu gan gynrychiolwyr Cyngor Tref Aberhonddu, Siambr Fasnach Aberhonddu, PLAN Aberhonddu a grwpiau eraill yn Aberhonddu sydd â diddordeb. Mae holl aelodau’r grŵp yn gwneud y gwaith ar sail wirfoddol ar gyfer Aberhonddu 20:20.
Ry’n ni hefyd yn cael ein cynghori a’n cefnogi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Powys.
Beth fydd y cynllun yn ei wneud?
Ym mis Mawrth 2018, gwahoddwyd trigolion a busnesau yn Aberhonddu i roi eu barn ar eu dyheadau i’r dref trwy arolwg helaeth.
Mae grŵp Aberhonddu 20:20 yn defnyddio’r wybodaeth hyn i ddatblygu cynllun dan arweiniad y gymuned a fydd yn adlewyrchu dyheadau trigolion ac yn helpu i ddiffinio dyfodol y dref.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn cyfrannu i’r broses gynllunio yn y dyfodol ac yn rhoi tystiolaeth ar gyfer ceisiadau ariannu posibl i’r dref.
