Tyfu Ym Mhowys
Grow in Powys

Busnes Cymorth a cyngor
Mae cefnogi’r economi leol yn brif flaenoriaeth i Gyngor Sir Powys.
Mae ein Gwasanaeth Adfywio yn awyddus i helpu busnesau lleol, busnesau sy’n dechrau a busnesau sydd am symud i’r ardal. Trwy gysylltu gwasanaethau’r cyngor a gweithio gyda phartneriaid allanol gallwn eich helpu chi i ddod o hyd i’r cymorth cywir ar gyfer eich menter.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru ac asiantaethau menter lleol i helpu busnesau Powys i dyfu. Os ydych angen cymorth gydag eiddo busnes, sgiliau, recriwtio, a llwybrau nawdd byddwn yn fwy na pharod i roi help llaw.
Cadw mewn cysylltiad â Newyddion Busnes Powys.
Os hoffech gadw mewn cysylltiad â digwyddiadau busnes lleol a chlywed am yr hyn sy’n digwydd yn y byd busnes tanysgrfiwch i’n cylchlythyr a thudalennau cyfryngau cymdeithasol (cliciwch ar yr eiconau):
Meddwl am symud eich busnes i Bowys?
Mynnwch olwg ar y wefan Symud i Ganolbarth Powys – Darganfod Powys
Gweithio mewn partneriaeth.
Fel partner allweddol yn y Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a rhwydweithiau lleol rydym yn gweithio gyda busnesau Powys i yrru datblygiad economaidd ar draws ardal Canolbarth Cymru.:
Gwerthu i Gyngor Sir Powys.
Mae’r canllaw hwn wedi’i lunio i helpu busnesau lleol sydd am werthu eu gwasanaethau a’u cyflenwadau i’r Cyngor:

Tyfu busnesau Powys.
Mae gennym raglenni cymorth i helpu eich busnes chi:
Help gan sefydliadau eraill.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allanol i helpu busnesau Powys fanteisio ar y pecyn cymorth gorau: