top of page

Gwneud dyfodol gwell

i chi eich hun 

Mae Powys yn lle am gyfle, gan gynnal rhai o’r busnesau mwyaf amrywiol a datblygedig gyda marchnad swyddi iach ar draws y Sectorau Cyhoeddus, Preifat, a’r Trydydd Sector. 

​

Mae gan y sir ei hun economi gref a gyda’n cyfleoedd cyflogaeth gwych a ffordd ragorol o fyw, mae byw ym Mhowys yn brofiad unigryw fel dim arall. Rydym yn cynhyrchu ceir gyda chelloedd tanwydd hydrogen, systemau modur datblygedig, ymchwil a datblygu, diwydiannau meddygol, datblygu meddalwedd, a pheirianneg uwch. Mae yna fusnesau ffordd o fyw, diwydiannau traddodiadol a bob amser mae galw am wasanaethau lleol. 

Gwaith

Bachwch y

swydd berffaith 

Mae gan y sir y gyfradd diweithdra isaf yng Nghymru - mae’n lle gwych i weithio ynddo - ac mae yna bob amser alw am lafur medrus a gwasanaethau proffesiynol /rheoli. 

​

Mae tua 65,000 o bobl yn gweithio ym Mhowys ar draws ystod eang o sectorau cyflogaeth gan gynnwys: 

Ffigyrau Cyflogaeth Powys
Sgiliau

Medrus a pharod 

Mae meysydd lle ceir llawer o alw yn cynnwys sgiliau technoleg, y sector adeiladu, a pheirianneg. Mae cynlluniau hyfforddi a phrentisiaethau ar gael trwy gyflogwyr lleol a Phorth Sgiliau Gyrfa Cymru. 

​

Mae yna amryw o gynlluniau cymorth i helpu’r rhai a wnaed yn ddi- waith yn ddiweddar tuag at gost ailhyfforddi, ynghyd â chefnogaeth ar gyfer darpar gyflogwyr, a darperir pecyn cyflawn o gefnogaeth. Yn ogystal, mae rhaglen Gweithffyrdd + Powys yn cefnogi’r rheiny sy’n economaidd anweithgar dros 54 oed sy’n dychwelyd i’r gwaith. 

bottom of page