Teithio drwy’r
llwybr golygfaol
Profwch daith i’r gwaith gyda golygfeydd mor odidog fel y byddwch yn ysu am grwydro ymhellach.
​
Neu dilynwch y tro pedol enfawr o un ochr o Gymru i’r llall sy’n cysylltu’r Trallwng, Machynlleth a Thref-y-clawdd. Gyda dwy fil o filltiroedd sgwâr o dirlun syfrdanol a golygfeydd sy’n ymddangos fel pe baent yn mynd ymlaen am byth. Yn ychwanegol at ffyrdd agored, mae gennym 18 o orsafoedd trenau a rhwydwaith bysiau cynhwysfawr, heb sôn am nifer o reilffyrdd cul. Ar gyfer y teithiau byrrach hynny i’r gwaith, gallech reidio beic i gael antur traws gwlad i’w chofio.
Byddwch
mewn cwmni da
Gyda chymhellion gwych a seilwaith busnes o’r radd flaenaf o fewn parth twf lleol Powys, bydd eich busnes mewn cwmni ardderchog yng Nghanolbarth Cymru. Mae amrywiaeth Powys o sgiliau, gwasanaethau gweithgynhyrchu, cysylltedd a rhwydweithiau cefnogi ar draws y sir yn ei gwneud yn lleoliad delfrydol, beth bynnag fo’ch busnes.
​
Mae llwyddiant Canolbarth Cymru a ddatblygwyd yn wreiddiol ar economi amaethyddol, yn rhedeg hyd yn oed yn ddyfnach heddiw, ac yn gartref i rai o’r busnesau mwyaf amrywiol a datblygedig allan yna. Gyda dros 14,000 o fusnesau yn y rhanbarth, rydym yn falch o hyrwyddo a chroesawu mentrau o wahanol sectorau diwydiant, gan gynnwys Ynni a’r Amgylchedd, Bwyd a Ffermio, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Datblygedig, Gwyddorau Bywyd a Thwristiaeth, gyda meintiau yn amrywio o weithrediadau micro i rai ar raddfa fawr. Ein nod yw arallgyfeirio’r sylfaen economaidd ymhellach a chreu cyfleoedd gwaith newydd, sydd yn ei dro yn darparu’r lle a’r isadeiledd i alluogi eich busnes i esgyn i’r entrychion.
​
Yn y Parth
Mae Powys wedi’i leoli’n gyfleus rhwng nifer o Barthau Menter allweddol gan gynnwys:
-
Eryri (Gogledd) - Gan gynnwys Trawsfynydd fel canolbwynt ar gyfer mentrau technoleg carbon isel arloesol a Chanolfan Awyrofod Eryri, gan ffurfio gallu Cymru o ran Systemau Cerbydau Awyr a Reolir o Bell (RPAS).
-
Glannau Dyfrdwy (Gogledd)
- cynnal amrywiaeth eang o ganolfannau gweithgynhyrchu uwch o fewn diwydiannau fel awyrofod, peirianneg modurol a phroses, adeiladu a phecynnu. -
Henffordd, Skylon (Dwyrain) - canolbwyntio’n gryf ar y sector amddiffyn a diogelwch.
-
Glynebwy (De) - cynnig mynediad at ganolfannau gweithgynhyrchu eraill yn y DU, gan gynnwys gorllewin canolbarth Lloegr.
-
Glannau Port Talbot - sectorau gan gynnwys Deunyddiau
a Gweithgynhyrchu datblygedig, Ynni a’r Amgylchedd ac Adeiladu.
Ffynnu yn yr
amgylchedd
Ar draws sir eang Powys mae amrywiaeth enfawr o leoliadau a safleoedd i ddewis ohonynt, i alluogi eich busnes i ffynnu.
​
Mae’r sir sy’n awyddus i annog a helpu datblygiad o fewn y Canolbarth, wedi ei dynodi’n Ardal Twf Lleol gan Lywodraeth Cymru mewn canolfannau masnachol allweddol, yn cynnwys Dyffryn Hafren
(Y Drenewydd a’r Trallwng), Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais.
Ardal Dyffryn Hafren
​
Gyda chysylltiadau agos ag ardal Gororau Swydd Amwythig a Swydd Henffordd, mae gan y lleoliad fynediad i Ganolbarth Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr ac Ardaloedd Menter Gogledd Cymru.
Mae’r prif ganolfannau busnes yn y rhanbarth yn cynnwys:
• Llanfyllin
• Llanidloes
• YDrenewydd
• Trallwng
Canol y Canolbarth
​
Lleoliad canolog gwych yng Nghymru gyda mynediad hawdd i Ororau Swydd Amwythig, Swydd Henffordd ac ymlaen tuag at Ganolbarth Lloegr.
Mae’r prif ganolfannau busnes yn y rhanbarth yn cynnwys:
• Llanfair-ym-Muallt
• Tref-y-clawdd
• Llandrindod
• Llanandras
• RhaeadrGwy
Dyffryn Dyfi
​
Yn arwain at Aber Afon Dyfi, mae’r dyffryn mor agos at yr arfordir ag y gallwch fod ym Mhowys, gyda mynediad i Ogledd Orllewin Cymru a thref Prifysgol Aberystwyth.
Y brif ganolfan busnes yn y rhanbarth yw:
-
Machynlleth
Bannau Brycheiniog
​
Yn ffinio ag ardaloedd blaenau’r cymoedd a De Cymru Ddiwydiannol, mae’r ardal hon yn agos at y Parthau Menter yng Nglyn Ebwy a Henffordd, gan ddarparu mynediad i ganolfannau gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi eraill yn y DU, gan gynnwys Gorllewin Canolbarth Lloegr gyda chysylltiadau cefnffyrdd i rwydwaith traffyrdd yr M4 / M5.
Mae’r prif ganolfannau busnes yn y rhanbarth yn cynnwys:
​• Aberhonddu
• Crughywel
• Talgarth
• YGelliGandryll ​
Cwm Tawe Uchaf
Dim ond 30 munud o ganol dinas Abertawe gyda mynediad i’r M4 a’r A465, lleolir yr ardal ychydig y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan roi’r gorau o ddau fyd i fusnesau; lleoliad sy’n agos at farchnad ranbarthol a’r unig ran o Bowys o fewn De Cymru Ddiwydiannol.
Y brif ganolfan busnes yn y rhanbarth yw:
-
Ystradgynlais
Gweithlu
Er bod gan y Sir ddiweithdra isel mae llawer o hyn yn ganlyniad i lefelau uchel o gyflogaeth ran-amser, sy’n creu galw sylfaenol am gyflogaeth amser llawn.
​
Mae’r potensial uchel ar gyfer recriwtio o fewn rolau amser llawn ar draws y sir yn bodoli o ganlyniad i’r cynnydd presennol mewn rolau rhan amser a’r gweithlu sydd ar gael, gyda rhaglen Cymunedau Cryfach Powys yn nodi’r potensial ar gyfer 10,000 o swyddi newydd ar draws y wlad yn ystod y pum mlynedd nesaf (2016- 21).
Powys yw’r gyrchfan fwyaf poblogaidd ar gyfer y rhai sy’n mudo i mewn i’r wlad o dde-ddwyrain Lloegr. Mae’r gyfran fwyaf o’r rheiny rhwng 16-49 oed, gyda chymwysterau’r sir yn uwch na chyfartaledd Cymru gyda chyfran uwch o swyddi rheoli a chrefftau medrus nag yng ngweddill y DU.
Seilwaith a
chysylltiadau thrafnidiaeth
Cysylltiadau Cyflymach
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth i osod rhwydweithiau band eang ffibr optig ar draws y prif drefi masnachol a’r Canolbarth gwledig, gan wneud ein rhyngrwyd a chysylltedd symudol yn addas i’r 21ain ganrif ac ymlaen i lefel gystadleuol fyd-eang.
Mae’r gallu i deithio mewn awyren i Lundain o feysydd awyr Caerdydd, Lerpwl, a Manceinion yn golygu y gallai Llundain fod yn ddim ond 2.5 awr i ffwrdd o garreg eich drws.
​
Cludiant Cyhoeddus
Mae gwasanaethau rheilffyrdd yn cysylltu Aberystwyth â’r Amwythig ar draws gogledd y rhanbarth a Gorllewin Canolbarth Lloegr i Faes Awyr Birmingham trwy’r canol, gan gysylltu Abertawe ac Amwythig, tra bod y bws pellter hir T4 / T6 Traws Cymru a gwasanaethau “X” rhanbarthol yn darparu cludiant cyhoeddus ar draws y sir.
​
Cysylltiadau Awyr Masnachol
Mae’r rhain ar gael y tu allan i’r rhanbarth ym Maes Awyr Caerdydd Cymru, Birmingham, Lerpwl, a meysydd awyr Manceinion.
Y Porthladdoedd Môr agosaf
Mae’r porthladdoedd masnachol agosaf y tu allan i’r rhanbarth yng Nghaergybi, Abergwaun, Penfro, Abertawe, Caerdydd a Lerpwl.
​
Y Ffyrdd i Lwyddiant
Mae Powys yn buddsoddi mewn ffyrdd gwell o wella cysylltiadau ar draws y sir, gyda’r buddsoddiad diweddar yn ffordd osgoi’r Drenewydd yn ei gwneud yn bosibl i deithio’n gyflymach i safleoedd diwydiannol allweddol o fewn yr ardal.
Cymorth
a Chefnogaeth
Mae Powys yn cynnwys mynyddoedd, bryniau, afonydd a llynnoedd. Cyfnewidiwch giwiau’r draffordd am fynyddoedd wedi’u mowldio gan bron i wyth mil o flynyddoedd o weithgarwch dynol.
​
Mae bod â gwybodaeth leol bob amser yn gymorth mawr. Mae Gwasanaeth Adfywio’r Cyngor Sir yn rhoi cymorth a chefnogaeth i arwain busnesau sy’n bwriadu adleoli i’r ardal hon. Gyda chysylltiadau i mewn i eiddo lleol, gwasanaethau statudol a pherthynas agos ag asiantaethau cymorth y sector cyhoeddus gallwn eich cysylltu gyda’r bobl iawn i wneud eich symud mor llyfn a rhwydd â phosibl.
​
Symud i’r Canolbarth
Adfywio ac Eiddo Corfforaethol,
Cyngor Sir Powys,
Neuadd y Sir,
Spa Road East, Llandrindod, Powys,
LD1 5LG.
​
Ffôn: 01597 827656
E-bost: regeneration@powys.gov.uk
*Amserau Teithiau yn fras
Y ffyrdd allweddol o’r gogledd i’r de yn y rhanbarth yw’r:
​
• A470 (T) sy’n cysylltu Caerdydd a de Cymru i’r gogledd trwy ganolbarth Cymru i Drawsfynydd a gogledd Cymru (A55).
Y ffyrdd allweddol o’r dwyrain i’r gorllewin yn y rhanbarth yw’r:
​
• A44(T), A470(T), sy’n cysylltu canol Powys i Aberystwyth yn y gorllewin.
• A44(T), A470(T), A489(T) a’r A458(T) canol Powys i’r dwyrain a’r A49(T) a’r A5(T) a’r M54 ar hyd ffin y Gororau ac i Orllewin Canolbarth Lloegr a thu hwnt.
• A483 (T) sy’n cysylltu gogledd Powys i Wrecsam, Glannau Merswy, yr M6 a Manceinion.