top of page

Byw i ddeisyfu

Manteisiwch ar y cyfle i fwynhau ffordd o fyw o fath gwahanol. Treuliwch eich

penwythnosau yn crwydro’r cefn gwlad yn cael anturiaethau epig, rydych bob amser yn sicr o ddod o hyd i rywbeth i’w wneud - rhywbeth gwyllt, newydd, cyffrous neu ymlaciol.

​

Mae gennym ddigonedd o fannau agored, mae gennym barc

cenedlaethol gyda llawer o ardaloedd godidog o harddwch naturiol

eithriadol ac eangderau mawr o goedwigoedd a choetiroedd. Mae

yna gadwyni mawr o fynyddoedd - Bannau Brycheiniog - gyda rhai

ucheldiroedd llai (ond heb fod yn llai hardd), sy’n disgyn i

ddyffrynnoedd afon eang. Mae tirweddau epig o amgylch pob

trofa, gan gynnwys Llynnoedd ac afonydd Cwm Elan, Mynyddoedd

Cambria, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r de, ac yn ffinio â

Pharc Cenedlaethol Eryri yn y gogledd. Mae gennym raeadrau

trawiadol hefyd, megis Pistyll Rhaeadr, sy’n uwch na Rhaeadrau

Niagara. Er bod y Canolbarth yn wledig, mae yna steil a sylwedd

yma, a gallai eich arian fynd ymhellach hefyd. Gyda threfi sba a

marchnad bychain bywiog fel Llandrindod yn hytrach na dinasoedd

mawr, rhaeadrau yn hytrach na rhodfeydd prysur wedi’u cyfuno â

mynyddoedd, llynnoedd a phobl wych. Mae cymudo yn haws gyda

mynediad i drefi mawr a dinasoedd gyda chysylltiadau rheilffyrdd

da, rhwydweithiau cefnffyrdd, a chysylltiadau bws cenedlaethol.

Mae’r bywyd gwledig yn cyfuno’r awyr agored a byw’n iach. Mae

ysbryd cymunedol ac agosatrwydd yn bwysig iawn yn ogystal â

rhwydweithiau bro cryf. Mae byw ym Mhowys hefyd yn ymwneud â

lles a chynnig cymunedau diogel a chefnogol i fyw a thyfu ynddynt,

mae’n lle sy’n eich atgoffa’n gyson sut i ymlacio.

Teimlwch yn gartrefol

P’un a ydych yn anelu am dref fywiog neu i ffwrdd i fwynhau heddwch cefn gwlad, mae dewis lle byddwch hi’n byw yn benderfyniad pwysig.

​

Yn ffodus, mae digon o ddewis i weddu i’ch ffordd o fyw newydd ym Mhowys p’un a ydych yn rhentu neu brynu, er mwyn i chi wneud y dewis gorau i chi a’ch teulu.

​

​

Trefi wedi'u cysylltu'n dda

Yn 2016 roedd tai teras yn gwerthu am bris cyfartalog o £129,005, ac roedd tai pâr yn gwerthu am £151,437.

Tai

Ffigurau poblogaeth:

Anadlwch yn rhwydd

Felly, rydych wedi dadbacio’r tegell ac wedi blasu tafell o’n bara brith lleol, beth rŵan? Sicrhau bod eich teulu yn dal yn hapus ac yn iach sydd nesaf ar eich rhestr wirio, ac mae gofal iechyd rhagorol ac ymrwymiad ein cynghorau i greu Cymru iachach yn golygu bod eich lles yn cael sylw gofalus.

​

Wedi’r cyfan, mae hwn yn sirsydd ddim yn sefyll yn stond. Mae llwyth o bethau I’w weld a’u gwneud o feicio a seiclo, chwaraeon dwr, marchogaeth ceffyl, chwaraeon modur, dringo, ogofa, pysgota, canolfannau gweithgareddau, dyfrffyrdd a pharciau a gerddi i sicrhau cydbwysedd hyfryd

rhwng gwaith a bywyd.Mae un ar bymtheg o ganolfannau hamdden gyda gwahanol weithgareddau a chyfleusterau lle gallwch wneud ffrindiau newydd tra’n rhoi tro ar rywbeth newydd. Ac mae NOFIO AM DDIM i bawb dan ddwy ar bymtheg sy’n byw yng Nghymru yn ystod gwyliau ysgol. 

​

Uned Man Anafladau

Ym Mhowys mae deg ysbyty cymunedol, gyda phedwar ohonynt yn darparu cyfleusterau uned mân anafiadau.

​

Damwelnlau ac Achoslon Brys

Darperir cyfleusterau cyffredinol ar gyfer damweiniau ac achosion brys yn y nifer o Ysbytai Cyffredinol sy’n ffinio â’r sir, sydd i gyd yn cael eu hamlygu ar y dudalen gyferbyn.

Iechyd

Pan ydych chi’n byw yng Nghanolbarth Cymru, mae gennych chi a’ch teulu fynediad at ystod o wasanaethau gofal iechyd - llawer ohonynt am ddim.

Hamdden

Ymestyn rich coesau

 

Llynnoedd gydag ysbrydion ynddynt, cewri a dewiniaid wedi’u trechu: mae yna fythau a chwedlau yn eich disgwyl chi o amgylch pob cornel. Safle brwydrau mawr drwy’r oesoedd, mae gan Bowys stori i’w hadrodd.

​

​

Mae’r sir yn frith o safleoedd cestyll (640 i fod yn fanwl gywir) a meysydd brwydr, gallwch ddarllen am ein hynafiaid mewn llyfrau a gallwch weld yr hyn a welsant, cyffwrdd yr hyn y gwnaethon nhw ei gyffwrdd, cerdded milltir yn eu hesgidiau. P’un a ydych yn chwilio am antur neu gyfle i gicio’n .l ac ymlacio, Powys yw’r lle perffaith i chi a’ch teulu. Wedi ei hamgylchynu gan raeadrau dramatig, llwybrau cerdded a Pharciau Cenedlaethol heb eu

difetha, mae calon Cymru yn sail ardderchog i ffordd o fyw wirioneddol unigryw.

​

Dim ond pellter byr o Abertawe a’r unig ran o’n sir yn Ne Cymru

ddiwydiannol, mae Cwm Tawe Uchaf a thref Ystradgynlais wedi’u trwytho mewn celfyddyd, diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol. Mae’n enwog am ei chysylltiadau .’r artist Josef Herman, y gantores opera ryngwladol Adelina Patti, a David Thomas, sylfaenydd y diwydiant haearn yn Pennsylvania, UDA. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymestyn o dir calchfaen dramatig y Mynydd Du yn y gorllewin hyd at y ffin . Lloegr y tu hwnt i’r Mynyddoedd Du yn y dwyrain. Y canolfannau gorau yw’r trefi mwyaf yn y de yn Aberhonddu neu’r trefi marchnad fel Y Gelli

Gandryll, gyda’r dref flaenorol yn baradwys i rai sy’n hoff o fwyd, a’r olaf yn rheidrwydd i rai sy’n caru llyfrau.

I’r gogledd o’r Bannau poblogaidd mae’r hen drefi sba, fel Llanwrtyd,

sy’n adnabyddus drwy’r wlad am ei digwyddiadau ecsentrig a thref gain Llandrindod. Croesir y cefn gwlad tawel gan ffyrdd mynyddig ysblennydd, cefn gwlad agored, a phentrefi tlws sy’n cynnwys amrywiaeth o eglwysi hynafol. Anelwch i’r dwyrain lle dewch i dref y gororau, Tref-y-clawdd, cartref Clawdd Offa gyda’i chanolfan fasnachol draddodiadol a’i diwydiannau llewyrchus. Fel llawer o drefi gwledig yng Nghanolbarth

​

Cymru, mae gan dref hardd Llanidloes gymuned celf a chrefft ffyniannus ac awyrgylch hamddenol. Sir Drefaldwyn yw rhan ogleddol Powys, sydd . phoblogaeth fach a llawer o gefn gwlad agored. Mae tref fwyaf y sir, y Trallwng, yn gartref i Gastell Powys, un o gaerau gorau’r wlad, ac mae hefyd yn agos at Lyn Efyrnwy, llecyn hyfryd ar gyfer crwydro a gwylio natur.

 

Mae rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol drwy’r flwyddyn, gan gynnwys Gwˆ yl y Gelli, How The Light Gets In, Jazz Aberhonddu a Gwˆ yl y Dyn Gwyrdd yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, heb anghofio digwyddiadau mwy anghyffredin fel Cors y Byd. Pencampwriaethau Snorcelu i’ch diddanu. Ac ewch chi ddim yn bell yn ein trefi marchnad cyn i chi ddod ar draws theatr, oriel neu neuadd gyngerdd. Mae gan y sir nifer o sioeau a gwyliau lleol drwy gydol yr haf gyda’r sioe amaethyddol fwyaf

yn Ewrop, Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf ar faes y sioe ger

Llanfair-ym-Muallt.

Addysg

Dysgwch y

Ffordd Gymreig

Mae addysg yn bwysig i ni yng Nghanolbarth Cymru ac mae’n gartref i ysgolion a cholegau rhagorol, sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau i ddenu myfyrwyr o bedwar ban byd.

​

Mae yna lawer o opsiynau o ran meithrinfeydd, darpariaeth cyn ysgol a gofal plant ym Mhowys ar gyfer eich anghenion. Drwy gydol eu dysgu, mae Cwricwlwm Cymru yn annog eich plentyn i ddatblygu eu diddordeb, adeiladu ar eu cryfder, a dysgu mewn lleoliadau creadigol a chalonogol. Mae gan y Sir lefelau sylweddol uwch o alwedigaethau sgilgar a lefelau is o

swyddi heb sgiliau o gymharu a gweddill Cymru.

​

Mae gan y sir lefelau cyflogaeth uchel a swyddi o ansawdd da sy’n rhoi cyfle gwych i ddatblygu gyrfa. Mae gennym gysylltiadau cryf a system addysg uwch y Canolbarth drwy Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru sy’n gweithio a Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Grŵp Colegau NPTC yn y sector addysg bellach.

Lleoliadau Ysgolion Uwchradd:

Aberhonddu

Llanfair-ym-Muallt

Crughywel

Llanfair Caereinion

Llandrindod

Llanfyllin

Llanidloes

Machynlleth

Y Drenewydd

Llanandras

Gwernyfed

Y Trallwng

Ystradgynlais

Lleoliadau Addysg Bellach:

Aberhonddu

Y Drenewydd

bottom of page