top of page

Cam i'r cyfeiriad cywir

​

  • Gwell Fusnes

  • Gwell Fywyd

  • Dyfodol Gwell

Mae Powys yn cynnig amrywiaeth anhygoel o dirweddau a gyda hynny, cyfle. Fe’i lleolir yn ganolog rhwng De Cymru ddiwydiannol, Gororau Swydd Amwythig a Swydd Henffordd, ac Eryri yng Ngogledd Cymru. Croesir Powys yn .l ac ymlaen gan sawl bwlch mynyddig. Mae gan y sir drefi bach llawn cymeriad yma ac ynddi dydych chi fyth ymhell o ddwˆ r - boed y rhain yn afonydd pefriog neu yn llynnoedd gwych.

​

O barciau dilychwin a bryniau tonnog, dyffrynnoedd Cymreig sy’n ddigon i gipio eich anadl i bentrefi wedi’u cuddio ynddynt, mae’r cyfan gennym ni yma. Mae yna 2,000 o filltiroedd sgwâr o ryddid allan yna gyda’ch enw chi arnyn nhw. Yn ogystal â chyfleoedd gwaith a seilwaith rhagorol mae Powys yn cynnig croeso Cymreig cynnes. Mwynhewch gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, anadlwch awyr iach y mynydd, a dotiwch at ein trefi marchnad sy’n llawn o siopau annibynnol a siopau boutique yn gwerthu eu cynnyrch crefftau gwlad eu hunain. Yna, beth am ymgolli yn awyr agored epig ein rhanbarth, ymlaciwch yn ein cefn gwlad ffrwythlon a’r cyfan wrth fwynhau ein cynnyrch lleol - o’r cae i’r fforc mae ein bwyd mor ffres ag y gallai fod.

BYW

 

Manteisiwch ar y cyfle i fwynhau ffordd o fyw o fath gwahanol. Treuliwch eich penwythnosau yn crwydro’r cefn gwlad yn cael anturiaethau epig, rydych bob amser yn sicr o ddod o hyd i rywbeth i’w wneud - rhywbeth gwyllt, newydd, cyffrous neu ymlaciol.

GWEITHIO

​

Mae Powys yn lle am gyfle, gan gynnal rhai o’r busnesau mwyaf amrywiol a datblygedig gyda marchnad swyddi iach ar draws y Sectorau Cyhoeddus, Preifat, a’r Trydydd Sector.

LLEOLWCH

​

Profwch daith i’r gwaith gyda golygfeydd mor odidog fel y byddwch yn ysu am grwydro ymhellach.

Cysylltu

Cysylltu

Am ragor o fanylion:

 

Symudwch i'r canolbarth, adfywio ac Eiddo Corfforaethol:

​

Singer Sir Powys, 

Neuadd y Sir,

Spa Road East,

Llandrindod Wells, 

Powys, LD1 5LG.

​

Ffôn: 01597 827656

E-bost: regeneration@powys.gov.uk

Llwyddiant! Derbyniwyd eich neges

bottom of page